Saunders Lewis
Mae un o gyn-Lywyddion Plaid Cymru wedi galw ar i bobol roi’r gorau i “bardduo” y Llywydd cynta’, Saunders Lewis.

Fe fydd Dafydd Wigley yn dadorchuddio plac i gofio am Saunders Lewis ar ei gartre’ ola’ Mhenarth ger Caerdydd ac mae’n dweud y dylai gael ei gofio fel gwleidydd Ewropeaidd oedd o flaen ei amser.

“Mae hefyd yn hen bryd rhoi pen ar yr ymgyrch o bardduo bwriadol yn ei erbyn, yn ystod ei fywyd a hyd yn oed ar ôl iddo farw,” meddai Dafydd Wigley.

Ar adegau, mae honiadau wedi eu gwneud bod elfennau gwrth-Iddewig yng ngwaith Saunders Lewis a rhai’n ei feirniadu am fod ar y dde’n wleidyddol ac yn elitaidd o ran ei weledigaeth.

‘Dyn mawr’

“Roedd yn ddyn mawr y dylen ni ymfalchïo i’w gydnabod, fel cenedl ac ar draws ffiniau gwleidyddol,” meddai Dafydd Wigley.

“Mae’n arbennig o amserol ar yr adeg hon – wrth i ni wynebu refferendwm ar barhau ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd – ein bod ni’n cofio’r weledigaeth Ewropeaidd a roddodd Saunders Lewis i wleidyddiaeth Cymru.

“Mae’n bryd, felly, i ailasesu ei gyfraniad a’i weld yn wleidydd prif ffrwd Ewropeaidd, a hynny’n bell o flaen ei amser yng Nghymru.”

Fe fydd Dafydd Wigley hefyd yn rhoi darlith ar y pwnc ym Mhenarth heno.