Y llun o Richard Burton (Ed Chapman/PA)
Fe fydd llun llechi o un o actorion enwoca’ Cymru yn cael ei ddadorchuddio mewn oriel yn Llundain heddiw.

Mae’r artist Ed Chapman wedi defnyddio darnau bach o garreg o Chwarel Rhiwbach ger Blaenau Ffestiniog i wneud darlun mosaic o Richard Burton, a fyddai wedi bod yn 90 oed y mis yma.

Mae’r llun wedi cael ei gymeradwyo gan weddw’r actor, Sally Burton, ei bedwaredd gwraig.

Fe ddywedodd hi ei fod yn addas am fod Richard Burton fel petai “wedi ei naddu o enaid Cymru”.

‘Ffan erstalwm’

Y disgwyl yw y bydd y darlun yn cael cartref ym Mhrifysgol Abertawe, heb fod ymhell o Bontrhydyfen, lle cafodd Richard Burton ei eni. Fe fu farw yn 1984 yn 58 oed.

“Dw i wedi bod yn ffan o Richard Burton erstalwm ac ro’n i eisiau creu portread unigryw ohono, ac os yn bosib yn cynnwys rhywbeth Cymreig a fyddai wedi ei wneud yn falch ac, efallai, wedi ei ddifyrru,” meddai Ed Chapman.