Mewn ymateb i’r pryder y gallai cannoedd o bobol golli eu gwaith wrth i dri o swyddfeydd trethi yng Nghymru gau, mae Plaid Cymru wedi galw am sicrwydd y bydd y swyddi’n cael eu gwasgaru’n deg ar draws Cymru.

Fe ddaeth cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y gallai bron i 800 o bobol golli eu gwaith wrth i swyddfeydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn Wrecsam, Porthmadog ac Abertawe gau gan ganoli’r gwasanaeth mewn canolfan newydd yng Nghaerdydd.

Mae tua 350 o staff yn cael eu cyflogi yn swyddfeydd Wrecsam, 300 yn Abertawe a 20 ym Mhorthmadog – lle mae’r llinell galwadau Cymraeg yn cael ei chynnal.

Ond, mae llefarydd yr economi Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn poeni y gallai hyn effeithio ar  tua “200 o swyddi ychwanegol” wrth i’r penderfyniad effeithio’r sector breifat hefyd.

‘Peidio â chanoli’

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â chanoli’r swyddi yng Nghaerdydd ac i’w gwasgaru ar draws Cymru.

“Mae’n fater pwysig o egwyddor ac o bwysigrwydd economaidd nad yw cyflogaeth y llywodraeth yn mynd yn ganolog,” meddai Rhun ap Iorwerth.

Fe amlygodd hefyd effaith hyn ar wasanaethau’r Gymraeg gan alw ar y Llywodraeth “i fynnu nad oes dirywiad ar allu staff swyddfa dreth yng Nghymru i ddelio â’r materion sy’n ymwneud â busnesau a dinasyddion Cymru.”

Fe soniodd am y posibilrwydd y gallai pob swyddfa dreth yng Nghymru tu allan i Gaerdydd gau erbyn 2021 fel “cyhuddiad damniol o flaenoriaethau’r Ceidwadwyr.”

Am hynny, mae’n galw ar y Llywodraeth Lafur i warchod buddiannau Cymru a’i gwneud yn flaenoriaeth y bydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei wyrdroi.