Mae cymdeithas hanes o ogledd Cymru wedi mynegi eu “siom am ddiffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru” i sefydlu cwricwlwm arbennig a fydd yn amlygu agweddau Cymreig ar draws y pynciau addysgol.

“Mae Cymru angen ei chwricwlwm ei hun i ateb gofynion Cymru,” meddai Eryl Owain ar ran Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Caernarfon.

Am hynny, mae’r ganolfan yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i gynnwys ymrwymiad yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol 2016, er mwyn gwireddu Cwricwlwm Cymru.

“Rydan ni’n siomedig nad oes camau wedi’u cymryd hyd yma,” ychwanegodd Eryl Owain gan ddweud nad oes dim wedi’i wneud ers cyhoeddi adroddiad ‘Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru’ ym mis Medi 2013.

Hanes Cymru

Fel canolfan hanes, teimla’r aelodau y dylai Hanes Cymru gael lle canolog mewn rhaglenni astudio. Ond, maen nhw hefyd am weld agweddau Cymreig eraill yn cael eu hamlygu ymhob pwnc, gan sefydlu cwricwlwm fyddai’n “arbennig i Gymru.”

Ym mis Chwefror 2015, fe gyhoeddodd yr Athro Donaldson adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ gan alw am gwricwlwm “wedi’i wreiddio yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru.”

Ond yn ôl Eryl Owain, “ymddengys nad oes dim yn digwydd i wireddu’r dyheadau hyn. Mae’r arfer o anwybyddu hanes Cymru felly’n parhau.”

Er hyn, fe ryddhaodd y Dr Elin Jones ddatganiad o ddiffyg hyder ym mis Medi eleni gan ddweud ei bod hi’n “anodd teimlo’n hyderus y bydd dimensiwn Cymreig ystyrlon yn greiddiol i unrhyw gwricwlwm yn y dyfodol a seilir ar yr adroddiad hwn sydd heb gynnig diffiniad ohono… ei enghreifftio na manteisio ar gyfleoedd amlwg i gyfeirio ato.”

Am hynny, mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn galw am ddatganiad o fwriad gan y Gweinidog Addysg i sefydlu cwricwlwm penodol i Gymru.

Hoffent weld yr addysg wedi’i sylfaenu ar y profiad Cymreig “ond a fydd hefyd yn gwricwlwm eang ac agored efo dimensiwn rhyngwladol cryf,” ychwanegodd Eryl Owain.