Mae datganiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio y gallai rhannau o ogledd Cymru brofi llifogydd heno, wrth i law trwm barhau i syrthio heno a bore fory.

Maen nhw wedi cyhoeddi pedwar rhybudd llifogydd ar afon Elwy yn sir Conwy, gan rybuddio ymhellach fod patrwm glawiad y 36 awr nesa’ yn allweddol.

“Mae ein staff allan yn gweithio ac yn ceisio paratoi at lifogydd,” meddai’r datganiad. “Mae hyn yn golygu gosod rhwystrau mewn llefydd sydd dan fygythiad – llefydd fel Llanelwy a Llanrwst.

“Byddwch yn barod”

Yn ogystal ag ardal sir Conwy, mae rhybuddion eraill mewn lle ar gyfer Sir Ddinbych a Gwynedd hefyd, yn ogystal â rhybuddion melyn ar gyfer y mannau canlynol: Ceredigion, Sir Fflint, Ynys Mon, Powys a Wrecsam.

At hyn, mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau datganiad yn dweud y bydd y rhybuddion mewn grym tan 10yh, nos Sul.