Mae ysgolion, mudiadau a sefydliadau ar hyd a lled y wlad wedi bod yn paratoi i ddathlu diwrnod Plant Mewn Angen heddiw a chodi arian ar gyfer y noson flynyddol fawr.

Bydd y sioe deledu yn cael ei darlledu heno ar BBC One, gyda’r cymysgedd arferol o heriau selebs, sgetsys doniol, perfformiadau arbennig a chip ar ble mae’r arian elusen i gyd yn mynd.

Fodd bynnag, fe fydd y noson yn digwydd heb Syr Terry Wogan yn cyflwyno am y tro cyntaf ers 1980, a hynny am bod y darlledwr 77 oed wedi cael cyngor meddygol i beidio â chymryd rhan eleni.

Yn ogystal â’r difyrrwch ar y sgrîn fodd bynnag, mae pobl ar hyd a lled y wlad wedi bod yn cynnal digwyddiadau amrywiol i geisio codi rhywfaint o geiniogau ychwanegol er mwyn cefnogi gwaith yr elusennau plant.

Dyma i chi gip o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ar hyd a lled Cymru’r wythnos hon ar gyfer Plant Mewn Angen, gan gynnwys ymddangosiad gan gyflwynydd Radio Cymru ‘Tommo’ – ac os oes gennych chi ragor i’w rhannu â ni, cysylltwch!