Fe allai teithwyr ar hyd a lled Cymru wynebu trafferthion heddiw wrth i Storm Abigail ddod a glaw a gwyntoedd cryfion.

Mae Swyddfa’r Met eisoes wedi rhoi rhybudd melyn i Gymru wrth i wyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr chwythu dros rannau arfordirol o dde a gorllewin y wlad.

Gosodwyd cyfyngiadau ar sawl pont gan gynnwys yr Hafren, Pont Britannia ar draws y Fenai, a Phont Cleddau yn Sir Benfro.

Mae disgwyl i’r gwyntoedd cryfion ostwng ychydig erbyn canol y bore, ond fe rybuddiodd Swyddfa’r Met y dylai gyrwyr fod yn barod am drafferthion ar y ffyrdd wrth iddyn nhw deithio i’r gwaith.

Llifogydd

Yn ôl y swyddfa dywydd mae disgwyl i’r storm effeithio ar ogledd Cymru hefyd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai achosi llifogydd mewn rhai mannau.

Dywedodd CNC y byddai gwyntoedd cryfion y storm, yn ogystal â llanw uchel, yn golygu bod ardaloedd fel Bae Ceredigion mewn peryg o weld llifogydd, ac y dylai trigolion fod yn barod.

Mae disgwyl i ogledd Cymru deimlo effaith y storm yn waeth dros y penwythnos ac mae rhannau eraill o Brydain, yn enwedig yr Alban, eisoes wedi cael eu taro’n wael gyda gwifrau pŵer yn cwympo ac ysgolion yn gorfod cau.