Y burfa olew yn Sir Benfro
Ni fydd camau troseddol yn cael eu cymryd yn dilyn ffrwydrad a laddodd pedwar o weithwyr ym mhurfa olew Chevron yn Sir Benfro yn 2011.

Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi bod yn ystyried troseddau o ddynladdiad corfforaethol yn erbyn y cwmnïau oedd yn berchen purfa olew Chevron ym Mhenfro.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed Powys a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Ond fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw nad oedd digon o dystiolaeth i gynnal achos o ddynladdiad corfforaethol.

Mae teuluoedd y rhai gafodd eu lladd wedi cael gwybod am y penderfyniad heddiw.

Cafodd Julie Jones 54, Dennis Riley 52, Robert Broome 48 ac Andrew Jenkins, 33 eu lladd wedi i’r storfa olew ffrwydro ar 2 Mehefin 2011.

Bydd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch nawr yn parhau â’r ymchwiliad.

Roedd cwmni Valero wedi prynu’r burfa olew gan Chevron yn 2011 yn dilyn y ddamwain.