Gallai S4C wynebu dyfodol ariannol ansicr oni bai bod ei chyllid yn cael ei ddiogelu, yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig.

Daw’r rhybudd ar drothwy uwchgynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Mae’r Sefydliad yn galw am gynnal annibyniaeth S4C, ac am gynyddu cyllid BBC Cymru o £30 miliwn.

Yn eu hadroddiad sy’n cael ei gyhoeddi ar gyfer yr uwchgynhadledd, mae’r Sefydliad yn gwneud nifer o argymhellion.

Ymhlith y rhain mae sefydlu panel ymgynghori i fonitro’r diwydiannau darlledu a phrint, a chynyddu’r cydweithio rhwng S4C a BBC Cymru.

‘Crebachu’

O ran gwasanaethau ar-lein, mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa ar gyfer gwasanaethau newyddion ar-lein arloesol.

Ar lefel Brydeinig, mae’n argymell y dylai Radio 1 a Radio 2 yng Nghymru gynnig rhaglenni newyddion Cymreig eu naws, a sefydlu iPlayer penodol i Gymru.

Mae’n nodi hefyd y dylai BBC2 Cymru ac S4C ddarlledu mewn HD.

Yn olaf, mae’n gwrthod y cysyniad y dylid datganoli darlledu, gan nodi y dylai llywodraethau Cymru a Phrydain rannu’r cyfrifoldeb.

Yn ôl archwiliad, mae’r gwariant ar raglenni newydd wedi crebachu ers 2008 ac mae’r sefydliad yn rhybuddio bod sefyllfa ffi’r drwydded yn peryglu dyfodol S4C a BBC Cymru.

Daw’r rhan fwyaf o gyllid S4C o ffi’r drwydded, a’r gweddill gan Lywodraeth Prydain, ond fe fu gostyngiad o 36% yn ei chyllid ers 2010.