Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Wrecsam i herio 10 o’r safonau iaith newydd, gan ddweud ei fod yn “ceisio amddifadu pobl o’u hawliau.”

Ymhlith y safonau mae’r cyngor am eu herio, mae cynnig gwasanaeth Cymraeg dros y ffôn, hyfforddiant i staff yn Gymraeg a’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd ‘sensitif’.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod y penderfyniad yn ‘annerbyniol’, gan ddweud bod angen safonau ‘cryfach’ nid gwannach ar Gyngor Wrecsam.

“Rhan o bwrpas yr hawliau newydd hyn yw cyflawni’r hyn mae cynghorau wedi bod yn anelu at ei gyflawni ers tua ugain mlynedd – lleiafswm yw’r safonau i fod,” meddai Aled Powell, cadeirydd y mudiad yn y rhanbarth.

‘Mater hynod ddifrifol’

“Byddai ymdrech lwyddiannus i wanhau’r Safonau’n golygu bod llawer o bobl yn cael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn. Dyw hyn ddim yn fater y byddwn ni’n ei ystyried yn ysgafn. Mae’n fater hynod ddifrifol bod awdurdod cyhoeddus yn ceisio amddifadu pobl o’u hawliau iaith,” ychwanegodd Aled Powell.

Helynt Cyngor Wrecsam a’r safonau iaith

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth i’r amlwg bod Cyngor Wrecsam wedi gorbrisio faint fyddai gweithredu’r safonau newydd yn ei gostio.

Roedd y cyngor yn credu mai £700,000 fyddai’r gost o roi safonau’r Comisiynydd Iaith ar waith ond erbyn hyn, maen nhw’n cyfaddef mai £250,000 yw’r ffigwr ar ôl cam-ddeall faint fyddai meddalwedd gwirio iaith yn ei gostio.

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith feirniadu’r cyngor ar y pryd, gan ddweud ei fod yn “gwbl warthus.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â Chyngor Wrecsam am ymateb.