Tracey Woodford
Yn Llys y Goron Caerdydd mae achos llofruddiaeth wedi clywed sut y cafodd dynes 47 oed ei thagu gan ddyn yr oedd hi wedi cwrdd ag o mewn tafarn ychydig oriau’n gynt.
Clywodd y llys bod Christopher Nigel May, 50, o Graig wedi lladd Tracey Woodford mewn ymosodiad “oedd a chymhelliad rhywiol.”
Dywedodd Roger Thomas ar ran yr erlyniad bod May wedi cwrdd â Tracey Woodford yn nhafarn y Skinny Dog ym Mhontypridd.
Cafodd y ddau eu gweld yn cerdded tuag at gartref May yn ddiweddarach.
“Dyna’r tro olaf i unrhyw un ei gweld yn fyw, ar wahân i’r diffynnydd,” meddai Roger Thomas.
Mae’r erlyniad yn honni bod Tracey Woodford wedi cael ei thagu i farwolaeth rywbryd rhwng 21 a 22 Ebrill.
Ar ôl ei marwolaeth cafodd ei chorff ei dorri’n ddarnau, clywodd y llys.
Roedd plismon wedi dod o hyd i’w chorff mewn fflat ym Mhontypridd ar 24 Ebrill, ddeuddydd ar ôl i’w theulu fynd at yr heddlu i ddweud ei bod ar goll.
Dywedodd Roger Thomas bod ei llofruddiaeth wedi bod yn “filain a chreulon gyda chymhelliad rhywiol.”
Mae Christopher May wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o’i llofruddio.
Mae’r achos yn parhau.