Lindsay Whittle
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw am roi terfyn ar wario “symiau mawr” o arian cyhoeddus ar ran newydd o’r M4 yn y de.

Mae’n amcangyfrif bod o leiaf £54 miliwn wedi’i wario ar y cynllun hyd yn hyn.

Mae ymateb diweddaraf Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn dangos rhestr gwariant y cynllun dros y 23 mlynedd diwethaf.

Mae Lindsay Whittle, Aelod Cynulliad De Ddwyrain Cymru wedi galw am roi terfyn ar wario ar y cynllun am ei bod yn ofni fod ardaloedd eraill yn colli allan ar gyfleoedd i ddatblygu isadeiledd.

Mae’n galw ar y Llywodraeth i ystyried opsiwn arall sy’n rhatach, sef cynllun y Llwybr Glas.

‘Symiau mawr o arian’

Mae Lindsay Whittle wedi galw ar y Llywodraeth i ystyried opsiwn rhatach, sef y Llwybr Glas yn hytrach na’r Llwybr Du.

Fe ddywedodd ei fod yn poeni hefyd y bydd y ffordd yn anfanteisiol i borthladd Casnewydd ac i swyddi cysylltiedig.

Roedd yn pryderu am effaith y draffordd ar amgylchedd yr ardal, yn enwedig wrth i ran o’r cynllun arfaethedig redeg dros wastadeddau adnabyddus Gwent.

“Mae symiau mawr o arian cyhoeddus wedi mynd tuag at y llwybr du – ffordd a fyddai’n ddrud iawn ac yn golygu y byddai rhannau eraill o Gymru yn cael eu neilltuo rhag gwaith isadeiledd hanfodol,” ychwanegodd Lindsay Whittle.

Ffigurau

Fe ddechreuodd y cynllun i greu ffordd liniaru ar gyfer yr M4  yn 1992, ac fe wariwyd £3.6 miliwn erbyn 1997 ar waith paratoi.

Gwariwyd £17.7 miliwn ychwanegol erbyn 2008, a £3.4 miliwn erbyn 2012.

Yna, yn 2014, fe ddechreuodd y gwaith o greu rhan o draffordd a choridor yr M4 i’r de o Gasnewydd.

Gwariwyd £4.2 miliwn erbyn 2015, ac amcangyfrifir y bydd cost ychwanegol o £19.8 miliwn erbyn y flwyddyn nesaf.