Y Cadeirio yn Eisteddfod Llandyfaelog
Mae bardd sydd fel arfer yn barddoni yn Saesneg wedi ennill ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog yn Sir Gaerfyrddin.

Fe enillodd Les Barker, sy’n wreiddiol o Fanceinion ond sydd bellach yn byw yn Wrecsam, y gadair am gywydd 30 llinell o hyd ar y testun ‘tir newydd’ a hynny am ei brofiad o ddysgu’r Gymraeg tua 10 mlynedd yn ôl.

Mae eisoes wedi ennill dwy gadair i ddysgwyr ond dyma’r gadair gyntaf iddo ennill mewn cystadleuaeth agored sy’n gofyn am i bob llinell o’r gerdd fod mewn cynghanedd.

“Roedd gen i’r syniad o gymharu dysgu’r iaith â dringo mynydd ac wedyn gweld y tirlun hardd o fy mlaen i,” meddai wrth golwg360 wrth ddisgrifio ei waith buddugol.

“Mae dysgu Cymraeg yn sicr wedi fy agor i ddiwylliant gwahanol, mae fel byd arall.”

Troi at gamp newydd

Fe ddysgodd y bardd, sy’n enwog am ei waith doniol a chraff yn y Saesneg, sut i gynganeddu tua wyth mlynedd yn ôl, dan arweiniad y bardd diweddar, John Glyn Jones.

“Roeddwn i wedi penderfynu cystadlu mewn eisteddfodau achos ‘mod i wedi barddoni yn y Saesneg am mor hir, ac roeddwn i’n meddwl dylwn i ddechrau trio cynganeddu.”

Ac mae Les Barker yn grediniol bod barddoni yn y Saesneg yn debyg iawn i farddoni yn Gymraeg – ond ‘heb y rheolau’ – “y rheolau ydy’r peth sy’ mor wahanol” yn ei farn ef.

“Weithiau dwi’n meddwl byddai’n well heb y rheolau ond dwi ddim yn gallu stopio, mae’n gêm newydd. Mae’n wych os wyt ti’n llwyddo. Mae’n beth da i wneud pethau newydd.

“Ond mae’n lot anoddach i sgwennu’n Gymraeg. Dwi ddim yn deall yr iaith yn ddigon da eto i fynegi fy hun, dyna’r broblem fwyaf dwi wedi’i gael – yn union fel dysgu’r iaith am y tro cyntaf, ro’n i eisiau dweud cymaint a doedd hi ddim yn bosibl i ddweud unrhyw beth ar y dechrau. Ond yr unig ffordd (o wella) yw gwneud y gwaith a dysgu wrth wneud hynny.”

Mae’n mwynhau’r elfen ‘gystadleuol’ sydd yn niwylliant barddoniaeth Cymraeg, ac mae’n dweud nad yw hyn yn bodoli o gwbl yn y Saesneg.

Cefndir Les Barker

Mae’r bardd, sydd wedi cyhoeddi 88 o gyfrolau, yn mwynhau ysgrifennu am bob math o bethau, ac mae unrhyw beth yn gallu codi ei ddiddordeb.

Mae wedi ysgrifennu cerddi ysgafn a gwaith sydd ychydig yn fwy pryfoclyd, ac mae hefyd yn aelod o fand gwerin, The Mrs Ackroyd Band.

Yn ogystal â theithio o gwmpas Prydain yn darllen ei farddoniaeth, mae hefyd wedi bod yn Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd, America a Chanada.