Fe fydd Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol yn cyfarfod heddiw i drafod y pwerau newydd sy’n cael eu hamlinellu ym Mesur Drafft Cymru.

Fe gyhoeddwyd y Mesur Drafft gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb, ar Hydref 20. Amlinellwyd ynddo mai’r bwriad yw creu “Cymru gryfach” gan roi “mwy o lais dros faterion Cymreig.”

Heddiw, fe fydd aelodau o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn uno i drafod y mesur sy’n cynnig cyfleoedd i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru.

Cyfnod ymgynghori

Mae’r pwerau hynny’n cynnwys materion yn ymwneud ag ynni, trafnidiaeth ac etholiadau’r Cynulliad.

Mae disgwyl iddyn nhw drafod gydag arbenigwyr cyfreithiol, academyddion a gwleidyddion eraill heddiw, a hynny mewn cyfarfod o chwe awr.

Mae hyn yn rhan o’r cyfnod ymgynghori cyn cyhoeddi’r Mesur terfynol.

Fe wnaeth Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rosemary Butler groesawu’r cyfnod hwn o drafod, am ei bod yn teimlo fod rhannau o’r Mesur yn “gam yn ôl i’r Cynulliad.”