Dylai Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ymddiswyddo oni bai ei fod yn sicrhau pwerau digonol i Gymru, yn ôl ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd.

Dywedodd fod gwybodaeth newydd ei chyhoeddi gan ymgynghorwyr cyfreithiol Llywodraeth Prydain yn dangos bod Crabb wedi camarwain pobol Cymru wrth awgrymu y byddai Mesur Cymru’n lleihau grym y Cynulliad.

Dywedodd ymgeisydd y Blaid yng Ngorllewin Abertawe, Dr Dai Lloyd: “Mae’r ffeithiau newydd hyn yn difetha holl achos Stephen Crabb.

“Mae’r llywodraeth Brydeinig bellach yn cyfaddef y byddai angen sêl bendith gweinidog San Steffan ar bump o ddeddfau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ôl telerau’r Mesur Cymru newydd.

“Mae arbenigwyr eu hunain wedi dangos bod Mesur y Torïaid yn ffars – un fyddai’n gwanhau datganoli yn hytrach na’i gryfhau.

“Pam lai trin Cymru’n genedl iawn, a sicrhau bod gyda ni’r un pwerau sydd ar eu ffordd i Senedd yr Alban?”

“Oni bai bod Stephen Crabb yn gallu darbwyllo ei gyd-Dorïaid i dderbyn cynllun datganoli iawn i Gymru, yna rhaid iddo fynd.”