Mae pryderon am ddyn 25 oed o Aberteifi sydd heb ei weld ers 5.30 fore Sul.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofidio am ddiogelwch Gethin Wyn Davies.
Cafodd ei weld y bore ma’n gyrru car Renault Clio, rhif cofrestru SC51 FKW yn ardal Synod Inn.
Dylai unrhyw un sydd wedi’i weld roi gwybod i’r heddlu ar 101.