Mae’r heddlu’n ymchwilio i ymosodiad difrifol yn nhref Llanelli rywbryd rhwng 7.45 a 8.15 neithiwr.

Aed â dyn 22 oed o’r dref i’r ysbyty’n dioddef o anafiadau difrifol.

Mae dau ddyn lleol, 52 a 30 oed, wedi cael eu harestio ac maen nhw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un a oedd yn ardal Stryd Dillwyn o’r dref ar y pryd ac a sylwodd ar unrhyw helynt gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.