Mae Frankie Boyle yn rhan o'r arlwy yr wythnos hon
Hefin Jones sydd wedi bod yn cymryd ei gip unigryw ar ambell un o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy’r dyddiau diwethaf …

Hanner mileniwm o segura

Gan ddathlu ‘500 mlynedd o ddiwylliant Prydeinig’, bydd ein pasports newydd yn cynnwys lluniau o naw person, oll yn Saeson. Mi fyddai’r union un cyfle i naw o Gymry fod arno pe bai unrhyw un yma erioed wedi gwneud unrhyw beth o bwys, felly hisht a’ch cwyno.

Treth tampon

11 Aelod Seneddol o Gymru a bleidleisiodd yn erbyn diddymu’r dreth ar y tampon sy’n cael ei ystyried fel eitem ‘luxury’, ond beth oedd gan yr 11 yn gyffredin? Roedden nhw i gyd yn ddynion ac yn Geidwadwyr, ond plentynaidd fyddai eu henwi felly gadawn lonydd i Guto Bebb, Stephen Crabb, Alun Cairns, David Davies, Byron Davies, Chris Davies, Glyn Davies, James Davies, Simon Hart, David Jones a Craig William gario ‘mlaen â’u diwrnod heb bryder yn y byd.

Parcio’i hun yn y Senedd

At Ddavies o Geidwadwr rhesymol arall, sef y Sais Phillip Davies (Shipley) a lwyddodd i atal parcio am ddim mewn ysbytai i ofalwyr iechyd drwy siarad, yn fwriadol, am awr a hanner tan i’r gloch i gau’r senedd ganu fel nad oedd amser ar ôl i bleidleisio.

Profiad perthnasol

Llongyfarchiadau i Sophie Howe ar gael ei phenodi i swydd £95,000 y flwyddyn yn Gomisiynnydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Crëodd Llafur y rôl annibynnol i ‘hybu datblygu cynaliadwy’ felly pob clod i Sophie, sydd â chefndir eithaf main ar hynny ond yn ei arbed â chyfnod swmpus fel ymgynghorydd arbennig i Carl Seargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol presennol yn y llywodraeth.

Cam wrth gam

Ac er i’r swydd gynnwys cyfrifoldeb dros ffyniant y Gymraeg, nid oes gan Sophie lawer o gefndir yn y maes hwn ychwaith, nac yn medru siarad yr iaith. Ond mae pawb yn datblygu rhywfaint pob diwrnod. Ac fel dywedodd sbîl ei hymgais am sedd Cynulliad Gogledd Caerdydd dros y Blaid Lafur: ‘Sophie has been a member of the Labour Party since she was 16’.

Corbyn yn pigo cydwybod

‘Does gen i ddim yn gyffredin â Jeremy Corbyn’ dagreuodd Anthony Grabiner wrth hepgor ei chwip Llafur, ei ‘gydwybod yn ei orfodi’ i symud ryw ddegllath ar ei sedd ledr. Bydd yn bodloni ar fod yn gadeirydd clwb golff Wentworth (£125,000 i ymaelodi), yn gyfarwyddwr yr erchyllfanc Goldman Sachs a’n gadeirydd pwyllgor rheoli News International Rupert Murdoch, tra’n parhau fel yr Arglwydd Grabiner a lwyddodd i dreulio’r flwyddyn gyfan olaf yn Nhŷ’r Arglwyddi heb yngan yr un gair o’i geg.

Gwrthryfel yr 1%

Bu i un o selogion yr hen Lafur Newydd siarad o flaen Clwb Llafur Prifysgol Caergrawnt, lle gynt y bu yntau a chymaint o’i gyd-deithwyr. Ceisiodd Tristram Hunt am yr arweinyddiaeth ei hun, ond ni chafodd ddigon o gefnogaeth i gael ymuno yn y ras. Ta waeth, esboniodd i’r myfyrwyr elît mai nhw oedd y ‘top 1%’, fel oedd yntau, a’u dyletswydd nhw oedd meddianu’r blaid.

Cwis y cofio

Cwestiwn bach i orffen. Pwy fydd yn cyflwyno’r Royal British Legion Festival of Rememberance nos yfory ar BBC1? Ydych eisiau dewis? Iawn. Ai a) Russell Brand b) Frankie Boyle ynteu c) Huw Edwards?

Bydd Hefin Jones ar ei wyliau’r wythnos nesaf.