Côr Cefnogwyr y Gweilch
Bydd cyfraniad côr rygbi at yr ymdrechion i hybu cig eidion o Gymru’n cael sylw ar raglen Heno yr wythnos nesaf.

Cafodd yr emynau ‘Cwm Rhondda’ a ‘Calon Lân’ eu recordio gan Gôr Cefnogwyr y Gweilch ar gyfer hysbyseb Hybu Cig Cymru sy’n cael ei dangos yn Gymraeg a Saesneg yng Nghymru am gyfnod o bedair wythnos.

Fe fu Hybu Cig Cymru’n hysbysebu eu cynnyrch drwy gydol Cwpan Rygbi’r Byd a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni.

Wrth fynd ati i recordio’r emynau ar gyfer yr hysbyseb yn stiwdio Tinopolis yn Llanelli, daeth cyfle i’r côr recordio cân ‘An Ode to Welsh Beef’ a gafodd ei chyfansoddi gan eu cyn-gadeirydd Ken Thomas.

Dywedodd Ken Thomas: “Mwynhaodd y côr y profiad o recordio ar gyfer yr hysbyseb.

“Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn i ni – bod yn rhan o gyfres deledu ac ymddangos yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

“Gobeithio y gallwn helpu i hyrwyddo Cymru, ei diwylliant a’i chynnyrch i’r byd.”

Ychwanegodd Rheolwraig Datblygu’r Farchnad Hybu Cig Cymru, Laura Pickup: “Rwy’n annog holl gefnogwyr Cymru i gefnogi’r côr, mynd ar-lein a rhannu’u perfformiadau fel eu bod yn mynd yn firol.

“Mae eu perfformiad yn wych ac yn haeddu sylw mor eang â phosib.”

Cystadleuaeth

I gyd-fynd â’r hysbyseb newydd, mae Cig Eidion Cymru wedi lansio cystadleuaeth newydd ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol, sy’n rhoi cyfle i bobl ennill ychydig o ‘bleser pur’.

Y cyfan sydd raid i gystadleuwyr ei wneud yw trydar neu bostio ar Facebook â’r hashnod #PleserPur, a thagio @PGIWelshBeef i gyflwyno eu syniad o  ‘baradwys’ – efallai diwrnod mewn spa, te prynhawn, diwrnod cyffrous yn y rasys neu sesiwn o siopa pleserus.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu tynnu’n fisol rhwng Tachwedd a Mehefin.

I weld y côr yn canu ‘An Ode to Welsh Beef’, ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=Vew5sHM5HzU

I weld yr hysbyseb, cliciwch yma: https://www.youtube.com/watch?v=iJSH33RA-HI