Mae Cyngor Wrecsam wedi gorbrisio cost gweithredu Safonau Iaith newydd Comisiynydd y Gymraeg.

Yn wreiddiol roedd y cyngor sir wedi dweud y byddai sefydlu’r drefn newydd o ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn golygu gwario £700,000 yn ychwanegol.

Ond erbyn hyn maen nhw’n dweud mai £250,000 yw’r ffigwr.

Un rheswm dros y gostyngiad o £½m yw bod swyddogion y cyngor wedi amcangyfrif y byddai’r gost o osod rhaglen gyfrifiadurol i gywiro Cymraeg y gweithwyr yn £96,250 – ond mewn gwirionedd £1,925 fyddai’r gost.

Yn ôl y cyngor mae’r gost hefyd wedi gostwng wedi i Gomisiynydd y Gymraeg  ‘[g]ynnwys eithriad mewn nifer o’r Safonau ble i ni nodi y byddai  cost yn rhwystr i gydymffurfio’.

Cymdeithas yn cwyno

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae’r ffaith bod Cyngor Wrecsam wedi gorbrisio cost y feddalwedd cywiro iaith, yn codi cwestiwn am yr holl broses o amcangyfrif cost gweithredu’r Safonau Iaith yno –  yn enwedig gan fod cynghorau eraill yn dweud na fyddai gweithredu’r Safonau yn costio ceiniog.

“Mae gwall o’r maint yma yn codi cwestiynau ynghylch holl honiadau’r Cyngor am y Safonau,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd y Gymdeithas.

“Mynnwn eich bod yn ymddiheuro am y ffigyrau gwallus a gyhoeddwyd gennych, a’ch bod yn cynnal ymchwiliad i mewn i sut gwnaed y fath gamgymeriad.”

Ychwanegodd Jamie Bevan: “Mae ymddygiad cyngor Wrecsam yn warthus. Mae’n gwbl glir eu bod nhw’n ceisio codi bwganod er mwyn tanseilio hawliau pobl i’r Gymraeg.”

Ymateb Cyngor Wrecsam

Mae Cyngor Wrecsam yn cyfaddef bod eu costau ar gyfer gweithredu’r Safonau wedi cwympo o £700,000 i £250,000.

Ond yn ôl y deilydd portffolio Cymunedau a Phartneriaethau, y Cynghorydd Hugh Jones:

“Nid oedd y Cyngor wedi gor-ddweud y ffigurau o ran cydymffurfio â’r Safonau yn y Rhybudd Drafft ac  roeddent yn seiliedig ar ei amcangyfrifon gorau, dyma pan eu bod bob amser yn rhai bras.

“Dylid nodi hefyd pan dderbyniodd y Cyngor y Rhybudd Cydymffurfio Drafft  amcangyfrifir y byddai’r gost flynyddol oddeutu £700,000.

“Fodd bynnag, nawr bod y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol wedi ei dderbyn mae’r ffigur hwn wedi cael ei ddiwygio ac amcangyfrifir y bydd y gost flynyddol oddeutu £250,000.

“Y rheswm am y gostyngiad yw bod y Comisiynydd wedi  gwrando arnom ac wedi  cynnwys eithriad mewn nifer o’r Safonau ble i ni nodi y byddai  cost yn rhwystr i gydymffurfio.

‘Anymwybodol bod gostyngiadau ar gael’

“Mewn perthynas â gramadeg a gwirydd sillafu’r iaith Gymraeg seiliodd y Cyngor ei ffigwr ar ffi’r drwydded bu i’r Cyngor dalu yn y gorffennol er mwyn darparu meddalwedd i’w staff sy’n siarad Cymraeg, ond yn anymwybodol ar y pryd pan dderbyniodd yr hysbysiad drafft bod gostyngiadau ar gael ar gyfer crynswth o drwyddedau.  Fodd bynnag, rydym wedi cysylltu â Chanolfan Bedwyr sydd wedi cadarnhau y gellid gostwng y costau i amlddefnyddwyr ac mae’r wybodaeth wedi’i chynnwys yn ein ffigurau diwygiedig.”

“Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â Mr Bevan os hoffai drafod y materion hyn gyda mi yn bersonol.”