Rhan o ffordd Blaenau'r Cymoedd (Robin Drayton CCA2.0)
Mae heddlu’n gofyn am dystion ar ôl i ddynes ei lladd wrth gerdded hyd priffordd ar ôl i’w char dorri i lawr.

Roedd y wraig, 41 oed, yn cerdded gyda dyn oddi wrth y car ar briffordd Blaenau’r Cymoedd pan gafodd ei tharo gan fan.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A465 ger Merthyr Tudful – rhwng Pant a Dowlais – tua chwarter wedi saith neithiwr.

Mae’r heddlu eisiau siarad gyda thystion, yn enwedig dyn oedd wedi aros i siarad gyda gyrrwr y fan Mercedes Sprint frown.

Fe ddylai pobol ffonio 101 a defnyddio’r cyfeirnod 1500411419