Chris Coleman
Mae Cymru wedi cwympo allan o ddeg uchaf rhestr detholion y byd FIFA ym mis Tachwedd er iddyn nhw sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn eu gemau diwethaf.

Roedd canlyniadau eu grŵp rhagbrofol ym mis Hydref, pan gollodd Cymru yn erbyn Bosnia ond ennill yn erbyn Andorra, yn ddigon i olygu y bydd y tîm yn chwarae ym Mhencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf.

Maen nhw lawr i 15fed yn y rhestr ddiweddaraf, fodd bynnag, saith lle yn is na fis diwethaf pan oedden nhw yn eu safle uchaf erioed.

Gwlad Belg, gafodd eu trechu gan Gymru ym mis Mehefin eleni, sydd wedi symud i frig y rhestr detholion a hynny am y tro cyntaf erioed.

Herio’r Iseldiroedd

Mae Lloegr wedi codi i’r nawfed safle (+1), Gogledd Iwerddon bellach yn 29ain (+6), Gweriniaeth Iwerddon fyny i 42fed (+12), a’r Alban lawr i 44fed (-4).

Y deg uchaf bellach yw Gwlad Belg, yr Almaen, yr Ariannin, Portiwgal, Chile, Sbaen, Colombia, Brasil, Lloegr ac Awstria.

Bydd gêm nesaf Cymru yn ornest gyfeillgar nos Wener nesaf yn erbyn yr Iseldiroedd, sydd un safle’n is na nhw yn y detholion diweddaraf.

Mae rhan o baratoadau tîm Chris Coleman ar gyfer yr Ewros y flwyddyn nesaf, pan fydd Cymru’n cystadlu mewn rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers 1958.