Fe fydd trefnwyr Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn cyfarfod â Phwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad heddiw fel rhan o’i ymchwiliad i gynlluniau trafnidiaeth y twrnament yng Nghaerdydd.

Byddan nhw’n ymchwilio i adroddiadau am ‘giwiau sylweddol’ a ‘gorlenwi’ ar wasanaethau trên ac yn edrych ar y rhesymau dros hyn a’u heffaith ar y twrnament.

Mae’r rhai fydd yn rhoi tystiolaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Gwpan Rygbi’r Byd, ynghyd â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Caerdydd, Trenau Arriva Cymru, Network Rail, Bws Caerdydd a Chydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru.

Bydd y pwyllgor hefyd yn ystyried pa mor briodol ac effeithiol oedd y drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y digwyddiadau’n fwy cyffredinol (er enghraifft gwasanaethau bysiau a thacsis) a pha mor effeithiol oedd y systemau cyfathrebu mewn perthynas â’r digwyddiadau.

Pryderon diogelwch i’r cyhoedd

Bydd hefyd yn trafod unrhyw bryderon diogelwch y cyhoedd neu bryderon eraill a gododd wrth drefnu’r gemau yn y brifddinas.

Bydd y pwyllgor yn codi ‘unrhyw wersi’ a gafodd eu dysgu wrth drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

William Graham AC dros ranbarth De Ddwyrain Cymru i’r Ceidwadwyr Cymreig sy’n cadeirio’r pwyllgor.

Mae amcangyfrifon fod Cwpan Rygbi’r Byd yn werth £316 miliwn i economi Caerdydd.