Gavin Williams
Roedd milwr ifanc yn “amharchus” tuag at un o’i uwch swyddogion ar y diwrnod bu farw, clywodd cwest heddiw.

Bu farw’r Preifat Gavin Williams, 22 oed o Hengoed, Caerffili yn 2006, ar ôl gorboethi yn ystod ymarferiad dwys ar ôl cael ei gosbi am anufudd-dod a chyfres o ddigwyddiadau lle’r oedd wedi meddwi.

Fe ddangosodd profion yr ysbyty fod tymheredd ei gorff wedi cyrraedd 41.7 gradd Celsius ar y diwrnod y bu farw, 3 Gorffennaf, un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn.  Roedd profion hefyd yn dangos bod ganddo’r cyffur ecstasi yn ei gorff pan fu farw.

Cafwyd tri swyddog wnaeth gosbi’r milwr yn ddieuog o gyhuddiadau o ddynladdiad yn 2008. Roedd y swyddogion hynny’n cynnwys y Rhingyll  Russell Price, y Rhingyll Paul Blake a’r Is-ringyll John Edwards.

Clywodd y cwest yn Salisbury ddoe bod Gavin Williams wedi bod allan yn yfed gyda’i gydweithwyr dros y penwythnos cyn ei farwolaeth ac wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad gyda diffoddydd tân ble cafodd ymwelwyr eu chwistrellu gyda dŵr.

Ar y bore dydd Sul roedd wedi gwisgo’n anaddas ar gyfer ei ddyletswyddau, ac roedd arogl alcohol arno. Cafodd orchymyn i fynd i weld uwch-swyddogion ar y bore dydd Llun.

Clywodd y cwest bod disgwyl i’r Preifat Williams ymddangos gerbron ynadon yn dilyn honiad o ymosod, a’i fod hefyd yn wynebu achosion troseddol yng Nghymru.

‘Amharchus’

Pan fethodd Gavin Williams ymddangos i wneud ei ddyletswyddau ar fore Llun, cafwyd hyd iddo’n cuddio mewn ystafell ymolchi a chafodd ei gymryd i weld ei uwch-swyddog Wayne Clark.

Dywedodd y Sarjant Clark wrth y gwrandawiad heddiw fod y Preifat Williams wedi cerdded i mewn i’w swyddfa yn ei ddillad ei hun a’i fod wedi bod ymddwyn yn “amharchus”.

Dywedodd ei fod wedi rhegi yn ystod ei sgwrs gyda’r Preifat Williams ond nad oedd yn “ymosodol” nac wedi “gor-ymateb”.

Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o’r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth y Preifat Williams.

Mae milwyr wedi disgrifio gweld Gavin Williams yn cael ei gosbi’n answyddogol, rhywbeth sy’n cael ei adnabod yn y fyddin fel ‘beasting’, a’i fod wedi bod yn chwysu ac yn edrych yn hynod flinedig.

Cafodd ei daro’n wael yn fuan wedyn.

Cafodd y gwrandawiad ei ohirio a bydd yn parhau yfory.