Mae miloedd o bobl heb gyflenwad dŵr yng ngorllewin a chanolbarth Cymru heddiw ar ôl i brif bibell ddŵr hollti  mewn canolfan trin dŵr yn Llechryd ger Aberteifi.

Mae tua 2,500 o dai wedi cael eu heffeithio yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Hendy-gwyn, Crymych, Aberteifi, Castellnewydd Emlyn, Clunderwen a Threfdraeth yw’r ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf.

Cafodd Ysgol y Frenni yng Nghrymych ei chau oherwydd y prinder dŵr.

Mae Dŵr Cymru wedi dweud na fydd cyflenwad dŵr pobl yn dod yn ôl tan bore dydd Iau, gan ymddiheuro am yr ‘anghyfleustra’.

Mae Dŵr Cymru wedi dosbarthu poteli dwr i rai cartrefi.