Ian Jones, Prif Weithredwr S4C
Mae angen i S4C osgoi dod yn “ddinesydd eilradd” yng Nghymru, yn ôl penaethiaid y sianel.

Daw’r rhybudd wrth i S4C alw ar Aelodau’r Cynulliad i drefnu asesiad annibynnol o’i hanghenion ariannol.

Mae S4C wedi wynebu toriadau o 36% yn ei chyllideb ers 2010.

Yn ôl Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, John Wittingdale, mae’n rhesymol disgwyl i’r sianel wynebu’r un toriadau â’r BBC.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw, mae S4C wedi rhybuddio y byddai rhagor o doriadau yn golygu cynyddu nifer yr ailddarllediadau a llai o raglenni gwreiddiol, gan gynnwys rhaglenni i blant, dramâu a rhaglenni dogfen.

Fe fyddai hefyd yn cael effaith ar wasanaeth ar-lein, yn ôl S4C.

Ailddarllediadau yw hanner rhaglenni’r sianel ar hyn o bryd.

‘Tegwch’ 

Wrth annerch Pwyllgor Cymunedau’r Cynulliad, dywedodd Prif Weithredwr S4C Ian Jones: “Mae gwir angen tegwch, a thegwch i ni yw ystyried y toriadau o 36% rydyn ni wedi’u cael hyd yma…

“Yr hyn nad ydyn ni eisiau yw bod yn ddinesydd eilradd.”

Mae rhai gwleidyddion hefyd wedi rhybuddio y gallai toriadau i’r BBC gael effaith fawr ar sianel genedlaethol Cymru gan ei bod yn dibynnu ar ffi’r drwydded am ei chyllid.

Daw oddeutu 90% o gyllid S4C o ffi’r drwydded, ac oddeutu 8% o Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.

Dywed yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon eu bod nhw’n ymroddedig i “ddarlledu ieithoedd leiafrifol, sy’n cynnwys S4C”.