Prif Weithredwr S4C, Ian Jones
Fe fydd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones yn amlinellu ei brif uchelgeisiau allweddol ar gyfer dyfodol y sianel yn ystod cyflwyniad arbennig ym Mae Caerdydd heno.

Mae’r uchelgeisiau wedi’u cynnwys mewn dogfen fydd yn cael ei lansio yn ystod y digwyddiad.

Ar frig yr agenda mae cynyddu prosiectau cyd-gynyrchiadau newydd i Gymru gan fod hwn yn faes “fydd yn galluogi’r sianel i greu cyfraniad economaidd pellach a chodi proffil Cymru a’r Gymraeg drwy’r DU a thramor”, yn ôl Ian Jones.

Ymhlith cyd-gynyrchiadau llwyddiannus diweddar S4C mae enillydd BAFTA Cymru ‘Y Gwyll/Hinterland’ a ffilm ‘Dan y Wenallt’ gan Kevin Allen, sy’n serennu Rhys Ifans a Charlotte Church.

‘Dan y Wenallt’ yw cais y DU yng nghategori ffilm iaith dramor y gwobrau Oscar eleni.

Yn ddiweddar, cafodd partneriaeth ei sefydlu rhwng S4C a Sony i fynd â fformatau a gafodd eu creu ar gyfer S4C i’r farchnad rhyngwladol.

Mae’r gyfres ‘Ar y Dibyn’, cynhyrchiad Cwmni Da sy’n cael ei darlledu gan S4C yn ystod yr hydref, ymhlith y cynnyrch cyntaf sy’n deillio o bartneriaeth rhwng y darlledwr a Sony.

‘Uchelgeisiol’

Wrth annerch y gynulleidfa ym Mae Caerdydd heno, mae disgwyl i Ian Jones ddweud: “Beth sy’n mynd i godi diwydiant cynhyrchu Cymru i’r lefel nesaf?  Rhan bwysig o’r ateb fyddai sicrhau mwy o brosiectau cyd-gynhyrchu i Gymru.

“Drwy fod yn fwy uchelgeisiol, drwy fod yn hyderus a beiddgar a trwy ddysgu o’n cydweithrediadau gyda phartneriaid o wahanol gefndiroedd a phrofiad.

“Uchelgais S4C yw chwarae rhan allweddol i sicrhau fod prosiectau rhyngwladol yn cael eu denu i Gymru gan ddod â gwaith, arbenigedd, profiad a sgiliau newydd a phroffil newydd i’n rhan ni o’r byd sy’n cynnig gymaint i’r diwydiant darlledu.”

Cyllid

Mae S4C wedi wynebu toriadau o 36% mewn termau real yn eu cyllideb ers 2010, ac fe fydd Ian Jones yn amlinellu sut y bydd sicrwydd ariannol yn galluogi’r sianel i sicrhau presenoldeb y Gymraeg ar blatfformau digidol newydd.

Bydd Ian Jones hefyd yn tynnu sylw at ddatblygiadau a fydd yn galluogi S4C i fod yn brif yrrwr cynnwys digidol i godi proffil y Gymraeg yn y cyfryngau.

Bydd yn dweud: “Mae platfformau newydd yn cael eu datblygu drwy’r amser. Ac ar rain a rhai eraill sydd ddim hyd yn oed wedi cael eu dychmygu eto, bydd cenedlaethau o Gymry’r dyfodol yn treulio’u hamser hamdden, yn eu ffyrdd eu hunain, gan chwilio am gynnwys fydd yn berthnasol iddyn nhw.

“Ac yn y cwmwl hwn o gynnwys amrywiol, ble mae’r iaith Gymraeg?

“Ein huchelgais yn S4C yw sicrhau lle’r iaith Gymraeg ar blatfformau newydd.

“Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi’r camau cyntaf o’n gwaith paratoadol i’r cyfeiriad hwn – ond, i ni, mae’n uchelgais sy’n rhaid ei gwireddu er mwyn i’r iaith Gymraeg ddal i fod yn berthnasol dros y cenedlaethau i ddod.”

Dogfen

 

Mewn dogfen fydd yn cael ei lansio gan S4C ar y noson, bydd y sianel hefyd yn tynnu sylw at ei chyfrifoldeb i wasanaethu ystod eang ac unigryw o oedrannau, chwaeth, diddordebau, galluoedd ieithyddol ac anghenion addysgiadol.

Mae canlyniadau ymchwil annibynnol sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen yn dangos bod S4C wedi cyfrannu £117 miliwn i economi Cymru a £170 miliwn i economi’r DU yn ystod 2014/15.

Mae pob £1 sy’n cael ei buddsoddi gan S4C yn economi Cymru a’r DU yn creu cyfanswm gwerth economaidd o £2.09.

Bydd y ddogfen yn cynrychioli cyfraniad S4C i drafodaeth ehangach ar sicrhau arian digonol i ddyfodol y gwasanaeth fel rhan o’r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr a’r drafodaeth am ffi’r drwydded ar lefel Brydeinig.