John Griffith Williams
Fe fydd dyddiaduron awdur ac arlunydd a dreuliodd cyfnod dan glo am wrthod ymladd dros fyddin Lloegr yn yr Ail Ryfel Byd yn cael eu harddangos dros benwythnos Sul y Cofio eleni.

Bydd yr arddangosfa yn neuadd Llanystumdwy ddydd Sadwrn yn rhan o ddathliad canmlwyddiant geni’r awdur o Lŷn ac Eifionydd, sef John Griffith Williams neu ‘Jack Pigau’r Sêr’.

Fe gyhoeddodd pedair cyfrol yn ystod ei yrfa, yn nofelau, astudiaethau ac atgofion plentyndod, ac roedd yn “arlunydd cywrain mewn sawl cyfrwng hefyd,” yn ôl ei ferch, Ann Gruffydd Rhys.

Yn ystod yr arddangosfa, fe fydd cyfle i weld ei ddyddiaduron sy’n cofnodi hanes y mudiad cenedlaethol oedd ar droed yn Eifionydd, gyda J G Williams ei hun yn gwrthwynebu’r rhyfel ar seiliau cenedlaethol.

Paentio capel

Fe dreuliodd J G Williams dri mis yn y carchar am ymwrthod â’r rhyfel, gan baentio’i wrthwynebiad ar gapel Moriah, Llanystumdwy gyda’i gyfaill Elis Gwyn a Wil Sam ei frawd.

Fe aeth nifer o fechgyn ifanc Cymru i garchar bryd hynny am yr un rhesymau, gan gynnwys Trefor Morgan, Frank Jones o Lanrwst a Dic Rowlands o Lanystumdwy.

Fe esboniodd Ann Gruffydd Rhys, merch yr awdur, nad oedd ofn arno a bod “rhyw afiaith ac ysbryd o benderfyniad a dycnwch yn perthyn iddo.”

Mae ei ddyddiaduron yn cofnodi peth o’r hanes hynny, gyda’r cywair yn troi wrth y “doniol” a’r “dwdls” at “gofnodion am weithgareddau’r Blaid Genedlaethol a’r P.P.U. (Peace Pledge Union),” meddai Ann Gruffydd Rhys.

“Roedden nhw’n llawn gobaith y byddai’r Blaid yn ennill y dydd yn fuan,” ychwanegodd.

Jack Pigau’r Sêr

Er nad yw ei enw yr un mor gyfarwydd ag enw arall sy’n dathlu canmlwyddiant eleni, T Llew Jones, bu gwaith ‘Jack Pigau’r Sêr’ yn “boblogaidd a gafaelgar.”

Ei gyfrol enwocaf o bosib oedd Pigau’r Sêr a gyhoeddwyd yn 1969, gyda Saunders Lewis yn ei chanmol fel “anthem o glod i ddaear Llŷn ac Eifionydd.” Mae’n gofnod o fagwraeth yr awdur a ffordd o fyw yr ardaloedd hynny yn ystod yr 1920au.

“Yr hyn a hoffwn i yn fwy na dim, fyddai i bobol ddarganfod llyfrau fy nhad o’r newydd,” meddai Ann Gruffydd Rhys a gollodd ei thad yn 1987.

Yn ei ail gyfrol, Maes Mihangel, “mae bywyd yn dal yn llachar braf ac mae digon i’w fwynhau, ond dyma’r 1930au a gwyddom beth sydd ar y gorwel,” ychwanegodd.

Cyhoeddodd hefyd nofel hanesyddol Betws Hirfaen ac astudiaeth o gyfieithiadau Omar Khayyam, Omar.

Arddangosfa

Fel athro gwaith coed yn ysgol Pwllheli, roedd yn dipyn o arlunydd hefyd ac fe ddyluniodd rhai o gloriau nofelau Islwyn Ffowc Elis.

“Roedd wrth ei fodd yn gwneud lluniau o ardal Eifionydd,” meddai’i ferch.

Bydd cyfle i weld y rhain ynghyd â’i gyfrolau a’i ddyddiaduron yn neuadd Llanystumdwy ddydd Sadwrn, Tachwedd 7.

Yna, am 7pm, fe fydd yr awdur Alun Jones o’r Sarn yn trafod ei weithiau llenyddol.