Gareth Bale ddim yn y garfan (llun: CBDC)
Dyw Gareth Bale ddim wedi cael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer eu gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd yr wythnos nesaf wrth iddo barhau i wella o anaf i groth ei goes.

Fe anafodd Bale y cyhyr yng ngêm Real Madrid yn erbyn Levante bythefnos yn ôl, ond fe gododd hynny wrychyn rhai ym Madrid a feiodd yr anaf ar y ffaith ei fod wedi chwarae dwywaith dros Gymru o fewn pedwar diwrnod.

Fe fydd Aaron Ramsey, Hal Robson-Kanu a Jazz Richards hefyd yn methu gêm Cymru wrth iddyn nhw hefyd wella o anafiadau ar hyn o bryd.

Ond mae ymosodwr Walsall Tom Bradshaw wedi cael ei enwi yn y garfan am y tro cyntaf, ac mae lle hefyd i amddiffynnwr Newcastle Paul Dummett, a enillodd ei unig gap dros Gymru hyd yn hyn mewn gêm gyfeillgar arall yn erbyn yr Iseldiroedd llynedd.

Mae David Cotterill hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anaf, tra bod Emyr Huws wedi cael ei gynnwys yn y garfan swyddogol o 23 ar ôl bod wrth gefn yn ystod gemau mis Hydref.

Paratoi at Ffrainc

Ar y cyfan mae’r rheolwr Chris Coleman wedi glynu â’r un grŵp o chwaraewyr a sicrhaodd le Cymru yn Ewro 2016, wrth iddyn nhw ddechrau eu paratoadau ar gyfer y twrnament yn Ffrainc.

Yr ornest yn erbyn yr Iseldiroedd ar nos Wener 13 Tachwedd fydd yr unig gêm gyfeillgar fydd y tîm yn ei chwarae fis yma, a hynny bedair wythnos cyn i grwpiau’r Ewros gael eu dewis.

Unwaith y bydd Cymru’n gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn Ffrainc y flwyddyn nesaf fe fyddan nhw’n debygol o fwrw ati i drefnu rhagor o gemau cyfeillgar ym mis Mawrth a Mai 2016, yn ogystal â dewis eu gwersyll ar gyfer y twrnament.

Carfan Cymru

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl, ar fenthyg yn Aberdeen), Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thistle)

Ashley Williams (Abertawe), James Chester (West Brom), James Collins (West Ham), Ben Davies (Spurs), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Adam Henley (Blackburn), Paul Dummett (Newcastle)

Joe Ledley (Crystal Palace), Joe Allen (Lerpwl), David Vaughan (Nottingham Forest), Emyr Huws (Wigan, ar fenthyg yn Huddersfield), Jonathan Williams (Crystal Palace, ar fenthyg yn Nottingham Forest), Andy King (Caerlŷr), David Edwards (Wolves)

David Cotterill (Birmingham), Tom Lawrence (Caerlŷr, ar fenthyg yn Blackburn), Tom Bradshaw (Walsall), Simon Church (MK Dons), Sam Vokes (Burnley)