Mae cadeirydd a phrif weithredwr S4C wedi rhybuddio dros gwtogi ei chyllid ymhellach gan ddweud y byddai’n arwain at fwy o ailddarllediadau, llai o raglenni plant a gostyngiad yn oriau’r sianel.

Mewn llythyr i Aelodau Cynulliad, mae Huw Jones ac Ian Jones wedi dweud y gallai toriadau pellach olygu mwy o ailddarllediadau, sy’n 57% o allbwn y sianel yn barod.

Maen nhw hefyd wedi dweud y bydd llai o raglenni plant gwreiddiol ar y sianel ac y byddai llai o ddramâu, rhaglenni dogfen a gwasanaethau ar-lein ar gael os bydd cyllid y sianel yn cael ei thorri rhagor.

Toriadau’r BBC yn effeithio ar S4C               

Mae rhai gwleidyddion hefyd wedi rhybuddio y gallai toriadau i’r BBC gael effaith fawr ar sianel genedlaethol Cymru gan ei bod yn dibynnu ar y ffi trwyddedu am ei chyllid.

Mae S4C yn derbyn £75 miliwn – 90% o’i chyllid, o’r ffi trwyddedu, daw 8% o’r Adran  Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a daw’r gweddill o ffynonellau masnachol a hysbysebu.

Bydd Huw Jones ac Ian Jones yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cymunedau’r Cynulliad heddiw, sy’n cynnal ymchwiliad i adolygiad siarter y BBC.