Pont Britannia
Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â datblygu cynlluniau i godi trydedd bont dros y Fenai.

Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart mewn llythyr wrth AC Plaid Cymru nad oedd cael tair lôn yn croesi’r Bont Britannia presennol yn opsiwn ddigon saff.

Fe fydd swyddogion nawr yn parhau i ystyried opsiynau ar gyfer adeiladu trydedd groesfan dros yr Afon Menai, gan fod y llwybrau presennol eisoes yn brysur am ran helaeth o’r dydd.

Mae ffordd yr A55 yn croesi Pont Britannia ar hyn o bryd a honno yw’r brif ffordd rhwng gogledd Cymru a’r porthladd yng Nghaergybi sydd yn cludo trafnidiaeth i Weriniaeth Iwerddon.

Dim trydedd lôn

Y bont gyntaf i gael ei hadeiladu dros y culfor sydd yn gwahanu Môn oddi wrth weddill Cymru oedd Pont Menai nôl yn 1826, ac fe agorodd Pont Britannia i gerbydau yn 1980.

Roedd y llywodraeth wedi bod yn ystyried opsiwn o ychwanegu trydedd lôn i un o’r pontydd presennol, gan olygu y byddai mwy o draffig yn gallu llifo dros y Fenai yn ystod oriau prysur.

Ond yn ôl Edwina Hart mae swyddogion y llywodraeth wedi diystyru’r opsiwn hwnnw ar ôl i wasanaethau brys godi pryderon y gallai tri llwybr greu trafferthion diogelwch.

“Mae fy swyddogion nawr yn datblygu achos busnes sydd yn cadarnhau’r angen ar gyfer trydedd groesfan dros Afon Menai,” meddai’r Gweinidog Busnes.

“Byddai trydedd groesfan yn datrys y problemau tagfeydd presennol ar Bont Britannia.”

Trydedd bont

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn Albert Owen eisoes wedi dweud ei fod yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ar y mater, a heddiw fe gafodd y penderfyniad i ystyried trydedd bont groeso gan Aelod Cynulliad yr ynys.

Fe allai cost trydedd bont fod hyd at £100m yn ôl rhai amcangyfrifon, fodd bynnag, ac fe allai’r datblygiad hefyd wynebu gwrthwynebiad amgylcheddol gan fod y Fenai yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig.

“Rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru rŵan yn cefnogi’r egwyddor bod angen datrys problem Pont Britannia,” meddai Rhun ap Iorwerth, gan ddweud bod angen buddsoddiad ar groesfan yn ogystal â’r A55 yn gyffredinol.

“Mae’r ddwy bont sydd yn gwasanaethu Ynys Môn yn llwybrau trafnidiaeth allweddol i ogledd Cymru, ac yn goridorau trafnidiaeth Ewropeaidd bwysig hefyd.

“Ond mae pob un ohonom ni sydd yn defnyddio’r pontydd yn rheolaidd yn gwybod bod tagfeydd difrifol yn digwydd yno’n aml.”