Matthew Rhys
Wrth baratoi ar gyfer rhan yn y ffilm newydd Burnt, fe drodd actor Cymreig o Hollywood at Gymro llwyddiannus arall am gyngor coginio.

Fe ryddhawyd y ffilm Burnt dros y penwythnos, lle mae Matthew Rhys yn chwarae rhan  cogydd proffesiynol.

Er mwyn paratoi at y rôl, fe benderfynodd Matthew Rhys droi am gyngor gan y cogydd Bryn Williams, sy’n rhedeg bwyty Odette’s yn Llundain ac sydd newydd gyhoeddi llyfr coginio yn y Gymraeg, Tir a Môr.

‘Y teitl yn disgrifio fy sgiliau i yn y gegin’

“Bryn oedd y person cyntaf a ddaeth i fy meddwl pan gefais y rhan yn Burnt, yn enwedig am fy mod yn cymryd yn ganiataol fod y teitl yn disgrifio fy sgiliau i yn y gegin,” meddai Matthew Rhys.

Yr oedd arno angen cymorth ar sut i goginio cordon bleu gan ddefnyddio cig oen Cymru, oherwydd “ar ôl treulio oes yn bwyta cig oen Cymru, ac am fy mod yn hanu o deulu mawr sy’n cynhyrchu’r cig, roedd yn braf cael gwersi ar sut i’w goginio’n iawn gan ben-cogydd o fri,” ychwanegodd.

 

Mae Burnt yn  adrodd stori ddoniol ac emosiynol y cogydd Adam Jones, sy’n cael ei chwarae gan yr actor Bradley Cooper. Mae’n dinistrio’i yrfa trwy gymryd cyffuriau, cyn dychwelyd i Lundain i redeg tŷ bwyta gan groesi llwybrau â chymeriad cystadleuol Matthew Rhys.

Mae gweddill y cast yn cynnwys Sienna Miller, Uma Thurman ac Emma Thompson.