Jonathon Robert Thomas
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dy fu farw mewn digwyddiad yn Abertawe fore dydd Sul.

Mae’r heddlu’n trin marwolaeth Jonathon Robert Thomas, 34 oed, fel achos o lofruddiaeth ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y  digwyddiad yn Ffordd y Dywysoges yn y ddinas tua 03:00 fore dydd Sul, 1 Tachwedd, ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei deulu’n cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

‘Cymeriad’

Mae Clwb Rygbi Abertawe wedi talu teyrnged i Jonathon Thomas.

Arferai chwarae i’r Mwmbwls, Aberafon a Chaerffili cyn ymuno â thîm ieuenctid Abertawe a St Helen’s.

Chwaraeodd i Glwb Rygbi Abertawe rhwng 2002 a 2003.

Roedd ei  gêm gyntaf i’r tîm yn Chwefror 2002, a hynny yn erbyn Caerffili gyda Scott Gibbs yn gapten arno.

Roedd ei gêm olaf yng nghwpan Konica Minolta yn erbyn Ynysddu yn Rhagfyr 2003, lle chwaraeodd gyda ffrind triw iddo, sef David Blyth.

Fe ddywedodd David Blyth, “fe fydda i wastad yn cofio cychwyn gydag ef yn Abertawe yn erbyn Ynysddu – roedd e’n gymeriad a oedd bob amser yn dod â gwên i’n hwynebau ar draws Abertawe a’r tu hwnt.”

Mae’r Clwb yn cydymdeimlo â’r teulu, ei frawd Nicky Thomas sydd hefyd yn chwarae i’r clwb, a’i rieni Rob a Julie yn y cyfnod anodd hwn.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth i’r digwyddiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500404963.