Mae dynes wedi marw, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A44 ger Llanandras, Powys, yn gynharach yr wythnos hon.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle’r ddamwain ym mhentre’ Walton toc cyn 5.30yp ddydd Mercher.

Cafodd dau ddyn eu cludo i’r ysbyty, ac mae un yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol iawn.