Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae arolwg sydd wedi’i gyhoeddi heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dod i’r casgliad bod llai o wybodaeth ar gael yn Gymraeg nag oedd yna yn Saesneg yn arwain at yr Etholiad Cyffredinol eleni.

Roedd y defnydd o’r Gymraeg wrth gyhoeddi canlyniadau’r Etholiad yn anghyson led-led Cymru hefyd.

Dyna pam y mae Meri Huws yn galw ar i Lywodraeth Prydain a’r Comisiwn Etholiadol ystyried casgliadau ac argymhellion yr adroddiad er mwyn sicrhau y gall pobol Cymru gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth ydi’r casgliadau?

* Roedd nifer o awdurdodau lleol wedi methu cynnwys dolen yn mynd at dudalennau Cymraeg y Comisiwn Etholiadol ar gyfer ffurflenni cofrestru i bleidleisio;

* Roedd anghysondeb wrth i rai Swyddogion Canlyniadau gyhoeddi’r canlyniadau’n gyfan gwbwl ddwyieithog, rhai yn rhannol ddwyieithog; ac eraill yn Saesneg yn unig.

“Mae pleidleisio a chymryd rhan mewn etholiadau yn un o’n hawliau sylfaenol fel dinasyddion ac yn rhywbeth sy’n berthnasol i bob un ohonom,” meddai Meri Huws.

“Wrth wneud yr arolwg hwn, gwelais bod lle i wella lefel y gwasanaeth a’r wybodaeth am bleidleisio.”

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi llunio 15 o argymhellion er mwyn gwella’r defnydd o’r Gymraeg erbyn Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ac Etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn 2016.

“Mae’n galonogol bod y Comisiwn Etholiadol wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion,” meddai Meri Huws wedyn, “a bod Swyddfa Cymru wedi ymrwymo i weithio â’r Swyddfa Gabinet i fynd i’r afael â’r materion a godir yn yr adroddiad cyn yr etholiadau fis Mai nesaf.”