Jane Holmes ar gwrs Marathon Eryri
Pan ddywedodd doctoriaid wrth Jane Holmes y llynedd nad oedd hi’n debygol o fyw mwy na blwyddyn oherwydd ei bod yn diodde’ o ganser yr ysgyfaint, rhedeg marathon oedd y peth olaf oedd ar ei meddwl.

Ond y penwythnos diwethaf fe lwyddodd y ddynes 44 oed o Sir Gâr i gwblhau Marathon Eryri, a hynny ar ôl brwydro drwy driniaeth heriol sydd yn edrych fel petai wedi cael gwared â’r afiechyd.

Mae canser yr ysgyfaint yn un o’r rhai sydd â’r cyfraddau marwolaeth uchaf, ac yn ôl yr ystadegau diweddaraf Cymru sydd â rhai o’r ffigyrau gwaethaf yn Ewrop.

Ond mae Jane Holmes yn un sydd wedi brwydro yn erbyn y rhagolygon oedd yn ei hwynebu.

“Roedd [y doctoriaid] wedi dweud mai dim ond siawns un mewn tri oedd gen i o fod yma mewn blwyddyn, felly roedd gallu bod yno’n gwneud marathon yn anghredadwy,” meddai’r wraig o Ffarmers wrth Golwg360.

“Rhedeg marathon oedd y peth pellaf o fy meddwl [wrth gael triniaeth], doeddwn i ddim yn disgwyl gallu bod nôl i fyny’r Wyddfa. Fe aeth fy ngŵr [Steven] o gwmpas gyda mi, ac fe orffennon ni mewn chwe awr a deng munud oedd yn grêt.”

Dim symptomau

Doedd Jane Holmes ddim wedi sylwi ar unrhyw symptomau o’r afiechyd, a dim ond ymweliad hap a damwain â’i meddyg teulu amlygodd fod rhywbeth o’i le.

Bu’n derbyn triniaeth yng Nghaerfyrddin ac yna yng Nghaerdydd, ac yn ffodus iddi hi fe weithiodd y driniaeth radiotherapi a gafodd er bod doctoriaid wedi awgrymu nad oedd ganddi lawer o siawns ganddi o wella.

“Cefais ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint ym mis Mehefin [llynedd], ac achos ei fod e’n ganser hwyr doedden nhw heb roi llawer o obaith i mi,” esboniodd.

“Fe ddywedon nhw nad oedd modd gwneud llawdriniaeth na’i wella, ac roeddwn i’n cael gofal lliniarol. Fe ges i gemotherapi a radiotherapi, ac roedd y radiotherapi yn eithaf llwyddiannus felly ar ôl hynny roedd llawdriniaeth yn bosib.

“Fe ges i’r driniaeth i fy ngwddf a fy mrest, oedd yn anarferol, ond roedden nhw’n meddwl y byddai fy nghorff i’n ddigon ffit i gymryd y driniaeth. Ar ôl hynny roedd y llawfeddyg yn ddigon hyderus i fynd i mewn a gwneud triniaeth ar yr ysgyfaint.

“Fe ges i hynny ym mis Mehefin, er mwyn tynnu llabed uchaf fy ysgyfaint, ac ar ôl hynny nes i ddechrau meddwl y byddai’n grêt mynd yn ôl i redeg.”

Dynes iach

Fel rhywun oedd wedi rhedeg Marathon Eryri dair gwaith o’r blaen, fe ddaeth y newyddion am ei hafiechyd yn syndod llwyr i Jane Holmes ar y dechrau.

“Roedd hi’n dipyn o sioc cael clywed mod gen i ganser a dweud y gwir, achos dydw i ddim yn ysmygu, dw i’n bwyta’n reit iach, yn rhedeg yn gyson, felly doeddwn i ddim yn ffitio’r stereoteip ar gyfer rhywun oedd yn cael canser yr ysgyfaint,” cyfaddefodd.

“Roedd llawer o fy ffrindiau wedi synnu hefyd. Fe wnaethon ni ddechrau codi arian wedyn ar ôl i mi gael y radiotherapi, wrth i ni aros am ganlyniadau’r profion, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r afiechyd.

“Fe wnaethon ni lwyddo i godi £16,000, oedd yn grêt, ac fe ddaeth y gymuned at ei gilydd ar gyfer sawl digwyddiad codi arian dros y flwyddyn.

“Gobeithio’i fod e wedi codi ymwybyddiaeth nad oes rhaid i chi fod yn rhywun hen sydd yn ysmygu i fod â risg o gael canser yr ysgyfaint.”

Yr afiechyd ‘wedi mynd’

Wnaeth ei sgan diweddaraf hi ym mis Medi ddim dangos unrhyw arwydd o’r afiechyd, ond fe fydd Jane Holmes yn parhau i gael profion bob ychydig fisoedd gan fod canser yr ysgyfaint yn un sydd yn aml yn dychwelyd i gleifion sydd wedi dioddef unwaith.

Ar hyn o bryd fodd bynnag mae’n edrych ymlaen at fwynhau rhedeg gyda chlwb Sarn Helen unwaith eto, ac eisoes yn meddwl am gystadlaethau’r flwyddyn nesaf.

“Roedd y gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn wych gyda fy nhriniaeth i,” meddai.

“Yn amlwg mae’r cyfraddau marwolaeth yn uchel gyda’r afiechyd yma, a dydyn nhw ddim fel arfer yn ei adnabod nes y cyfnod hwyr. Doedd gen i ddim symptomau, dim ond lwcus fod y meddyg teulu wedi sylwi ar rywbeth.

“Amser a ddengys [os fydd e’n dychwelyd]. Ond doeddwn i byth wedi disgwyl cyrraedd pwynt ble roedden nhw’n sganio ac yn dweud nad oedd unrhyw beth yn dangos, felly mae hynny’n gam gwych.

“Mi wnâi barhau i redeg – a chofrestru ar gyfer marathon Eryri eto’r flwyddyn nesaf!”

Cyfweliad: Iolo Cheung