Parc Cenedlaethol Eryri - un o'r tri
Mae adroddiad newydd yn dweud bod angen i barciau cenedlaethol Cymru ac ardaloedd o harddwch arbennig gadw at dair egwyddor sy’n cyfuno gwarchod tirweddau, mwynhau tirweddau a datblygu economaidd gofalus.
Mae’r panel a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru wedi gwneud 69 o argymhellion gwahanol ynglŷn â’r tri Pharc Cenedlaethol a’r pump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – ardaloedd y maen nhw’n eu galw’n “ffatrïoedd lles”.
Mae hynny’n cynnwys tynnu’r cyfan at ei gilydd mewn Pwyllgor Tirweddau Cenedlaethol a chael perthynas glosiach gyda’u cymunedau lleol.
Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas, wedi cael ei benodi’n awr i arwain Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol er mwyn trafod argymhellion yr adroddiad gyda’r gwahanol sefydliadau a datblygu ffyrdd o weithredu.
Rhai o’r prif argymhellion
Yn ôl yr adroddiad, fe ddylai’r Parciau a’r Ardaloedd o Harddwch – sy’n cynnwys mwy na chwarter holl dir Cymru – wneud mwy i ddatblygu economi eu hardaloedd, wedi ei seilio ar yr amgylchedd a threftadaeth.
Fe ddylai’r Parciau Cenedlaethol gadw’u pwerau i reoli cynlluniau o fewn eu hardaloedd, meddai’r adroddiad dan arweiniad yr Athro Terry Marsden.
Fe ddylen nhw a’r Ardaloedd Harddwch gael grant canolog gan y Llywodraeth a’r hawl i godi arian o ffynonellau eraill.
Y tair egwyddor
Yn ôl yr adroddiad, fe ddylai’r ddau fath o dirwedd arbennig gadw at yr un tair egwyddor:
- Gwarchod y tirweddau a’r amgylchedd.
- Helpu pobol i’w mwynhau.
- Datblygu’r economi ar sail rheoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol.
Fe fyddai datblygun cynnwys mwy o bartneriaethau menter lleol, rhagor o dai cynaliadwy a fforddiadwy, ynni gwyrdd a mentrau siopau.
Mae’r adroddiad yn dweud bod angen llai o reoliadau i gyfyngu gwaith yr awdurdodau ac mae’n argymell ffyrdd o gryfhau’r berthynas gyda’r Cynulliad, ar un llaw, a chyrff lleol ar y llall.
Meddai Carl Sargeant
“Dw i o’r farn ei bod yn hen bryd mabwysiadu dull ffres o fynd i’r afael â’r Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae’r Panel wedi cymeradwyo fy marn,” meddai Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
“Dw i’n cytuno gyda chrynodeb y Panel sef bod angen ymateb yn well i’r heriau amgylcheddol mwyfwy cymhleth sy’n ein hwynebu, i’r diffyg cydraddoldeb o ran llesiant ac iechyd, ac i sicrhau cymunedau gwledig mwy llewyrchus.”