Arglwydd Thomas o Gresffordd
Dylai’r Goruchaf Lys bob amser gynnwys un barnwr sydd â dealltwriaeth dda o Gymru a’r iaith Gymraeg, meddai un o aelodau Ty’r Arglwyddi.

Mae’r Arglwydd Thomas o Gresffordd wedi galw ar i’r Llywodraeth Brydeinig ddiwygio Bil Cymru er mwyn gwneud yn sicr fod yna lais Cymreig parhaol ar gorff 12-aelod y Goruchaf Lys.

Yn ôl y Democrat Rhyddfrydol, fe fyddai hynny’n sicrhau “y byddai yna bob amser sedd wedi’i chadw ar gyfer cyfreithiwr sydd â phrofiad a dealltwriaeth o ymarfer y gyfraith yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth o’r iaith Gymraeg”.

Ar hyn o bryd, meddai’r Arglwydd Thomas, mae dau farnwr o’r Alban yn rhan o’r Goruchaf Lys, ynghyd ag un o Ogledd Iwerddon.

Fe alwodd yr Arglwydd Kinnock am gonfensiwn cyfansoddiadol i drafod yn fanwl y berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig.