Mae cerbydau cwmnïau trenau Cymru ymysg yr hynaf yng ngwledydd Prydain, gyda llawer ohonynt dros chwarter canrif oed, yn ôl ffigyrau newydd.

Oedran cyfartalog cerbydau trên ym Mhrydain yn 20.2 mlynedd, yn ôl ymchwil gan PA – ond mae rhai First Great Western a threnau Arriva Cymru yn dipyn hŷn na hynny.

Mae’n debyg bod cerbydau First Great Western, sydd bellach wedi cael ei hailenwi’n Great Western Railway, ar gyfartaledd yn 32.4 mlynedd oed, sef yr ail hynaf ym Mhrydain y tu ôl i Merseyrail.

Oedran cyfartalog cerbydau Arriva Trains Wales oedd 24.4, oedd yn eu gosod nhw’n seithfed allan o 19 o gwmnïau trenau.

Gwaeth yn y gogledd

Y cyfartaledd oed o 20.2 mlynedd ar draw Prydain yw’r lefel uchaf ers 14 mlynedd, yn ôl y ffigyrau gafodd eu cymryd rhwng Ionawr a Mawrth eleni.

Mae’r rhan fwyaf o’r cwmnïau sydd â’r cerbydau mwyaf newydd yn gweithredu o gwmpas Llundain a chanolbarth neu dde Lloegr.

Y cyfartaledd ar gyfer cwmnïau trên y tu allan i Lundain a de ddwyrain Lloegr oedd 22.6 mlwydd oed, yr hynaf ers i gofnodion ddechrau gael eu cadw.

Dywedodd y Rail Delivery Group (RDG), sydd yn cynrychioli cwmnïau trenau a Network Rail, bod disgwyl i filoedd o gerbydau newydd gael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf.

‘Mwy ar y ffordd’

Dywedodd cyfarwyddwr sefydliad polisi IPPR Gogledd Lloegr, Ed Cox, fod y ffigyrau yn ganlyniad o “ddegawdau o danfuddsoddi yn isadeiledd trafnidiaeth y gogledd sydd wedi dal y rhanbarth yn ôl”.

Yn ôl Martin Abrahams o’r Ymgyrch am Drafnidiaeth Well y broblem yw nad oes gan y llywodraeth strategaeth genedlaethol ar gyfer disodli hen gerbydau â rhai newydd.

Ychwanegodd ysgrifennydd cyffredinol undeb yr RMT Mick Cash bod preifateiddio’r cwmnïau trenau wedi gadael “nifer cynyddol o deithwyr mewn trenau sydd yn llawn ac yn dirywio tra bod y cwmnïau trenau sy’n manteisio arnynt wrth eu boddau”.

Dywedodd llefarydd ar ran RDG y byddai mwy na 3,700 cerbyd ychwanegol yn rhedeg erbyn 2019 o’i gymharu â 2010, gan ddweud bod disgwyl trenau newydd sbon ar gyfer Great Western Railway, East Coast a Thameslink.

Oedran cyfartalog cerbydau

1. Merseyrail: 36.3 mlynedd

2. Great Western Railway: 32.4 mlynedd

3. Virgin Trains East Coast: 29.3 mlynedd

4. Govia Thameslink Railway: 28.9 mlynedd

5. Greater Anglia: 27.6 mlynedd

6. Northern Rail: 26.3 mlynedd

7. Trenau Arriva Cymru: 24.4 mlynedd

8. East Midlands Trains: 23.3 mlynedd

9. ScotRail: 20.5 mlynedd

10. Chiltern: 19.1 mlynedd

11. South West Trains: 18.9 mlynedd

12. CrossCountry: 16.6 mlynedd

13. Southeastern: 15.4 mlynedd

14. c2c: 14.0 mlynedd

15. Southern: 13.9 mlynedd

16. London Midland: 11.0 mlynedd

17. Virgin Trains West Coast: 10.4 mlynedd

18. First TransPennine Express: 7.7 mlynedd

19. London Overground: 4.7 mlynedd