Mae dynes mewn cyflwr difrifol iawn yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar briffordd yr A44 ger Llanandras ym Mhowys.

Mae’r ddau yrrwr – y naill mewn Citroën C5 a’r llall mewn Jaguar X-type – wedi’u cludo i’r ysbyty hefyd yn dilyn y digwyddiad ddiwedd pnawn ddoe.

Fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod, tra bod y gwasanaethau brys ar waith. Fe ail-agorwyd y ffordd toc wedi hanner nos.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau datganiad yn gofyn am wybodaeth a allai fod o help wrth geisio sefydlu sut ddigwyddodd y ddamwain.