Sioned Hughes
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi penodi Prif Weithredwr newydd ar gyfer y mudiad ieuenctid.

Sioned Hughes o Gaerdydd fydd yn olynu Efa Gruffudd Jones fel Prif Weithredwr, ac mae hi wedi galw’r penodiad yn “fraint o’r mwyaf.”

Fe fydd Sioned Hughes, sy’n wreiddiol o Ruthun, yn gadael ei swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, ac yn dechrau gyda’r Urdd yn gynnar y flwyddyn nesaf.

‘Edrych ymlaen at yr her’

Fe groesawodd Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru y penodiad gan ddweud: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Urdd – ymhen saith mlynedd byddwn ni’n dathlu ein canmlwyddiant.

“Rydyn ni’n diolch i Efa Gruffudd Jones am ei gwaith arbennig fel Prif Weithredwr, ac yn edrych ymlaen at gyfnod pellach o lwyddiant i’r Urdd o dan arweiniad Sioned Hughes.”

Fel Prif Weithredwr, fe fydd gan Sioned Hughes gyfrifoldeb dros y 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed sydd wedi ymuno â’r Urdd.

“Edrychaf ymlaen yn fawr at ddechrau yn fy swydd newydd, gan fod yr Urdd wedi bod yn bwysig i mi erioed,” meddai Sioned Hughes.

“Edrychaf ymlaen at yr her o barhau i roi pob cyfle i ieuenctid Cymru gymdeithasu a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac arwain y mudiad tuag at ddathlu can mlynedd gyffrous a phwysig,” ychwanegodd.

Yn ogystal â’r tri gwersyll yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd mae Eisteddfod yr Urdd yn denu 48,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, ac mae dros 400 o glybiau chwaraeon, adrannau ac aelwydydd cymunedol yn cyfarfod yn wythnosol dan enw’r Urdd.

Mwy am Sioned Hughes

Yn enedigol o’r Waun, magwyd Sioned Hughes yn Rhuthun. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Stryd y Rhos  Rhuthun, Ysgol Maes Garmon yr Wyddgrug, cyn mynd ymlaen i astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fe fu’n gweithio am flwyddyn  gyda’r Bwrdd Croeso, cyn cwblhau MSc mewn Cynllunio Gwlad a Thref.

Bellach mae wedi ymgartrefu yn Ystum Taf yng Nghaerdydd, lle mae’n byw gyda’i gwr Mark a’r plant Gwen a Cian.