Mae angen troi’r awr heno – felly cofiwch fod y clociau mynd am yn ôl!

Gyda’r weithred hon, fe ddaw amser yr haf (BST) i ben… nes y daw hi’n amser troi’r clociau ymlaen ym mis Mawrth y flwyddyn nesa’.

Y bwriad wrth droi’r clociau yn eu blaenau yn y gwanwyn ydi rhoi i ni gyda’r nosau goleuach, er bod y boreau’n tywyllu hefyd. Mae gwledydd Prydain yn gwneud hyn er 1916.

Dros y blynyddoedd, mae rhai wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r drefn hon, gan ddweud y dylai gwledydd Prydain lynu wrth amser GMT (‘Greenwich Mean Time’) ac, o wneud hynny, gadw’r amser yn gyson trwy gydol y flwyddyn.

Ond mae troi’r cloc heno yn golygu y bydd pawb yn cael awr ychwanegol yn y gwely bore fory.