Ania Turner
Fe fydd drama newydd am gefn gwlad yn cael ei pherfformio yn Theatr Felin-fach heno.

Hon fydd y ddrama gyntaf i’r Darlithydd mewn Astudiaethau Theatr o Brifysgol Aberystwyth, Roger Owen, ei haddasu, ac mae’n rhan o benwythnos agoriadol yr Ŵyl Ddrama sy’n cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Nyffryn Aeron eleni.

Addasiad o waith Tsiecof yw Parc Glas gan Roger Owen ac, ar ôl treulio blynyddoedd yn darlithio ac adolygu dramâu, teimlai’r darlithydd “ei bod hi’n bryd mynd amdani”.

Fel drama sy’n ymdrin â bywyd cymunedau gwledig heddiw, mae ynddi gymeriadau amaethyddol – ond mae hefyd ynddi Bwyles sy’n cael ei phortreadu gan ddynes o Wlad Pwyl ei hun, sef Ania Turner sydd bellach wedi ymgartrefu yng Ngheredigion.

‘Codi’r llen ar y diwylliant’

Roedd portreadu’r gymuned fel y mae heddiw yn bwysig i’r dramodydd Roger Owen, ac roedd am bwysleisio nad yw’r ardal wledig yn eiddo i’r Cymry Cymraeg yn unig – “mae’n llawer mwy cymhleth na hynny,” esboniodd.

Fe fydd Ania Turner yn portreadu cymeriad sy’n gweithio ar siop y fferm, ac yn ôl Euros Lewis, cynhyrchydd y ddrama, y gobaith “yw creu perthynas â’r gymdeithas Bwylaidd sydd wedi ymsefydlu yng Ngheredigion.”

Maen nhw’n gobeithio denu rhai o’r gymuned Bwylaidd ynghyd â chynulleidfa ddi-Gymraeg i’r perfformiad, “er mwyn codi’r llen ar ddiwylliant y Gymraeg gan esbonio’r hyn sy’n digwydd yn y ddrama,” yn ôl Euros Lewis.

“Roedd y syniad wedi bod ar fy meddwl ers blynydde,” esboniodd Roger Owen, sydd hefyd yn fab fferm ac yn tynnu’n helaeth ar ei gefndir amaethyddol.

Mae comedi a thrasiedi yn plethu trwy’i gilydd yn Parc Glas, gyda digon o “iaith leol, Geredigionaidd” ynddi yn ôl y darlithydd.

Troedyrhiw a’r Ŵyl Ddrama

Eleni yw blwyddyn gynta’r Ŵyl Ddrama yn Nyffryn Aeron, a bwriad Cwmni Theatr Troedyrhiw yw ailgodi ysbryd cwmnïau drama cefn gwlad.

Parc Glas fydd cynhyrchiad cyntaf yr ŵyl, ac mae’r actorion yn cynnwys Huw Emlyn, Delyth Wyn, Meleri Williams, Carys Mai, Carwyn Blayney, Trystan Jones, Hedd ap Hywel, Heilin Thomas, Hywel Lloyd, Jaci Evans ac Ania Turner.

Fe fydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys ail gynhyrchiad o hen ddrama, a’r tro hwn Pobol yr Ymylon gan Idwal Jones fydd yn cael ei pherfformio. Bydd y ddrama honno’n teithio o gwmpas neuaddau pentref yn ystod yr wythnosau nesaf gydag Ifan Gruffydd a Sam Jones o Dregaron yn perfformio ynddi.

Fe fydd gweithdai ysgrifennu, llwyfannu a chyfarwyddo ynghyd ag arddangosfa yn rhan o’r Ŵyl Ddrama yn Theatr Felin-fach y penwythnos hwn hefyd.