Gwefan cwmni MBI yn defnyddio'r ddau enw
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn anfon dirprwyaeth i gyfarfod â’r cwmni sy’n ystyried newid enw plasty hanesyddol Glynllifon ger Caernarfon.

Mewn cyfarfod ddoe, fe bleidleisiodd pwyllgor iaith y cyngor yn unfrydol i wrthwynebu ailenwi’r plas yn Wynnborn.

Ac, yn ôl y Cynghorydd Sian Gwenllian, maen nhw’n ysgrifennu at gwmni gwestai MBI o Halifax yn gofyn iddyn nhw dderbyn dirprwyaeth i drafod yr enw.

Ddydd Llun, fe fydd yr Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams, yn gosod cynnig ar y pwnc yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Wnes i gyflwyno cynnig yn galw ar y Pwyllgor Iaith i gefnogi’r symudiad yma i anghofio am Wynnborn a ges i gefnogaeth unfrydol,” meddai Sian Gwenllian.

Y cefndir

Mae’r ffrae wedi codi ers mwy nag wythnos ers i Gwmni MBI ddefnyddio’r enw Wynnborn yn eu deunydd hyrwyddo ar gyfer gwesty newydd yn y plas.

Ar ôl ymateb chwyrn yn lleol, roedd y deunydd wedi’i dynnu oddi ar y wefan, ond mae bellach yn ôl.

Mae’r helynt yn cryfhau galwadau am greu deddf newydd i warchod enwau hanesyddol Cymraeg rhag cael eu newid.

Eisoes, mae Sian Gwenllian wedi galw am wneud hynny trwy’r Bil Treftadaeth sydd yn y Cynulliad ar hyn o bryd.

Cyfarfod

“Ges i gyfarfod gyda’r cwmni ddydd Mercher a chael ar ddeall fod yr enw Wynnborn yn dal i gael ei ddefnyddio gan y cwmni yn eu deunydd marchnata,” meddai Sian Gwenllian.

“Yr hyn mae nhw’n ddeud ydi eu bod nhw am ddefnyddio Wynnborn am rwan ond am ddefnyddio Plas Glynllifon pan mae’r gwesty yn agor. Ond fe all yr enw Wynnborn wreiddio. Dw i wedi gofyn am gyfarfod pellach efo adain werthu’r cwmni.”

“Dydyn nhw ddim yn deal lefel y gwrthwynebiad. Dwi’n teimlo eu bod wedi ein camarwain ni.”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gwmni MBI.