Pier Bae Colwyn
Mae cais gan Gyngor Conwy i ddymchwel pier Fictorianaidd Bae Colwyn wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y pier, sydd wedi cael ei restru’n adeilad Gradd II, wedi cau yn 2008 ar ôl i’r perchennog, Steve Hunt fynd yn fethdalwr.

Daw’r newyddion ar ôl i’r Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Orllewin Clwyd, Darren Millar lansio deiseb yn galw ar weinidogion y llywodraeth i beidio â rhoi caniatâd i’r cais i ddymchwel.

Cafodd yr enwau ar gyfer y ddeiseb ei chasglu gan Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Conwy.

‘Siomedig’

“Rydym, wrth gwrs, yn siomedig â’r penderfyniad, ond yn hyderus bod ein cais wedi bodloni’r Gweinidog ar y ddwy elfen gyntaf o’r tair oedd yn y canllawiau a’r meini prawf a ddefnyddir i asesu cynigion i ddymchwel adeilad rhestredig,” meddai prif weithredwr Cyngor Conwy, Iwan Davies.

“Bydd aelodau’r Bwrdd Prosiect yn cyfarfod o fewn y dyddiau nesaf i ystyried y penderfyniad a’n hymateb ni.

“Ond, yn y cyfnod cynnar hwn, mae’n debygol y bydd y Cyngor yn cyflwyno cais newydd unwaith y byddwn wedi gwneud gwaith pellach ar yr un ardal sy’n weddill y mae’r Gweinidog wedi ei nodi fel un sydd angen sylw pellach gan y Cyngor.”