Heddlu Dyfed Powys sydd â’r nifer lleiaf o swyddogion o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru a Lloegr.
Ac mae’n un o’r pedwar heddlu yng Nghymru a Lloegr sydd heb yr un swyddog croenddu chwaith.
Daw’r ffigurau o ystadegau swyddogol y Swyddfa Gartref sy’n dangos mai wyth swyddog o leiafrif ethnig sy’n gweithio i Heddlu Dyfed Powys, sef 0.1% o weithlu sydd â 1,175 o weithwyr.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent hefyd yn y 10 gwaethaf o ran cyflogi swyddogion o leiafrifoedd ethnig, gyda Heddlu Gogledd Cymru yn 4ydd â 13 o swyddogion, a Heddlu Gwent yn 10fed gyda 21 o swyddogion.
Mae ystadegau’r Swyddfa Gartref yn rhannu ethnigrwydd i chwe grŵp: gwyn, cymysg, du neu ddu Prydeinig, Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, Tsieineaidd neu grŵp ethnig arall a ‘heb nodi’.
Roedd nifer y swyddogion o leiafrifoedd ethnig wedi gostwng mewn 23 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Mae golwg360 wedi gofyn i Heddlu Dyfed Powys am ymateb.