Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud y bydd yn croesawu’r “grŵp cyntaf” o ffoaduriaid i Aberystwyth cyn y Nadolig.
Mae aelodau cabinet y sir wedi cael gwybod y bydd “pump neu chwe” cartref yn cael eu defnyddio i roi llety i’r ffoaduriaid sydd wedi ffoi o Syria ond nid yw’n glir eto p’un ai teuluoedd, cyplau neu unigolion fydd yn eu plith.
“Byddwn yn gallu darparu pump neu chwe uned o feintiau gwahanol,” meddai arweinydd y cyngor, Ellen ap Gwynn.
“Rydym wedi cytuno y bydd y Gymdeithas Gofal yn gweithio gyda ni i roi cymorth i’r ffoaduriaid pan fyddan nhw’n cyrraedd.”
Dyw hi ddim yn glir eto pa eiddo fydd yn cael ei ddefnyddio, ond bydd y gwaith yn cael ei wneud gyda’r sector preifat. Ni fydd y stoc o dai cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio.”
Ceredigion fydd y sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn ffoaduriaid sydd wedi gorfod ffoi i Ewrop oherwydd y rhyfel cartref yn Syria.