Julian Ruck
Mae dyn 19 oed o Borth Tywyn wedi cael ei gyhuddo o daro a ffoi yn dilyn digwyddiad yng Nghydweli nos Sadwrn.

Cafodd yr awdur a cholofnydd Julian Ruck anafiadau difrifol i’w ben a’i goes wrth iddo gerdded yn Stryd Newydd y dref am oddeutu 7.40 y nos.

Mae’r dyn 19 oed wedi’i gyhuddo o yrru’n ddiofal, o fethu â stopio ac o fethu ag adrodd am wrthdrawiad.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher, Tachwedd 11.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio am dystion i’r digwyddiad.