Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i gorff gael ei ddarganfod mewn sied yn dilyn tân yn yr Wyddgrug.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i’r tân yng Nghilcain, ger yr Wyddgrug am 4.07yp bnawn dydd Mawrth.

Roedd un criw o Fwcle wedi taclo’r tân, pan wnaethon nhw ddod o hyd i’r corff.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub nawr yn gweithio gyda’i gilydd i ymchwilio i’r achos.

Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.