Mae nyrs oedd yn gofalu am ddynes oedd yn dioddef o salwch meddwl wedi cyfaddef iddi geisio mabwysiadu babi’r claf er mwyn sicrhau na fyddai’n colli cysylltiad gyda’i fam.

Roedd Abigail James yn gweithio fel nyrs iechyd meddwl i Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn ne Cymru ar y pryd.

Yn ystod gwrandawiad yng Nghaerdydd heddiw, fe glywodd y Cyngor Nyrsio a Bydwragedd (NMC) fod Abigail James yn “nyrs dda iawn”, ond ei bod hi wedi “croesi’r llinell.”

Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth yn 2012, mae Abigail James yn cydnabod ei bod “wedi croesi’r llinell rhwng ei bywyd proffesiynol a phersonol.”

“Rydw i wedi gweld fy ngwendid emosiynol, a hoffwn ddychwelyd i nyrsio,” meddai Abigail James.

Mae’n debyg ei bod hi wedi trafod gyda’i chydweithwyr ynglŷn â chysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn ceisio dod yn warcheidwad i’r plentyn, yn y gobaith na fyddai’n colli cysylltiad â’i fam yn y dyfodol.

Clywodd y gwrandawiad nad oedd ei chynlluniau i fabwysiadu wedi cael eu gweithredu ar ôl i’w rheolwr gysylltu â phenaethiaid.

 ‘Pellter proffesiynol’

 

Fe ddywedodd Paul Andrews, a gyflwynodd yr achos heddiw, ei bod hi “wedi gadael i’w chalon drechu ei meddwl – rhywbeth sy’n gallu bod yn beryglus yn y byd nyrsio.”

“Mae’n bwysig cynnal pellter proffesiynol â chleifion yn y proffesiwn hwn – yn enwedig wrth ofalu am bobol fregus.”

Dywedodd Paul Andrews y gallai ei gweithredoedd fod wedi achosi niwed emosiynol i’r claf ynghyd â gwanhau hyder y cyhoedd yng ngwaith nyrsys.

Fe fydd y panel yn penderfynu a yw ei haddasrwydd i barhau a’i gwaith wedi cael ei amharu, cyn y byddan nhw’n ystyried a oes angen cyflwyno cosbau.